A substantial and exceptionally spacious Detached Family Residence situated on a generous all-encompassing plot, enjoying a slightly elevated stance whilst offering superb far reaching views from the first floor to include the Menai Strait and Eryri mountains. Being situated centrally within the village of Llanfairpwll, the property is within walking distance of village amenities, convenient for the A55 expressway and the university city of Bangor. With the definite advantage of No Chain, the property has a slightly unconventional layout with bedrooms located on both levels with the main living area on the first floor, taking advantage of the fine views whilst there are 2 large kitchens on both levels, including bathroom facilities. Undoubtedly a generous family home, there is certainly scope for the layout to be re-configured somewhat to suit your particular needs – it’s certainly versatile! The property does however, require much in the way of modernising and updating work but offers much scope and exciting possibilities. Externally, the property has its own private gated driveway plus the provision of ample off road parking. The mature gardens reside on two levels and there is an exceptionally large Detached Garage/Workshop which might suit someone looking for premises to run a business from or suchlike. The property comes fitted with double glazing (uPVC and timber) and oil fired central heating.
Llanfairpwll is a large residential village and unlikely tourist destination - enjoying the reputation of having the longest place name in the UK! This popular village is situated on the historical old A5 between London and Holyhead and is located close to the Menai Strait, its two historical bridges and the A55 expressway, allowing rapid travel to the university city of Bangor on the mainland. Llanfairpwll boasts a good range of amenities to include a supermarket, several local shops and businesses, pubs/restaurants, petrol station, surgery and primary school. Anglesey has a diverse coastline and offers much in terms of watersports and leisure facilities whilst the proximity of the Eryri National Park ensures the enjoyment of the great outdoors.
Preswylfa deuluol sylweddol ac eithriadol o eang wedi'i lleoli ar blot hael sy'n cwmpasu'r ty yn gyfan ac yn mwynhau safle sy’n cynnig golygfeydd trawiadol o Fynyddoedd Eryri, Afon Menai ac ar draws Ynys Mon. Mae wedi'i lleoli'n ganolog ym mhentref Llanfairpwll, o fewn pellter cerdded i gyfleusterau'r pentref ac yn gyfleus ar gyfer traffordd yr A55 a dinas prifysgol Bangor. Does dim ‘cadwyn’ ynghlwm wrth y gwerthiant. Mae cynllun ychydig yn anarferol i’r ty, gyda llofftydd wedi'u lleoli ar y ddau lawr gyda'r brif lolfa ar y llawr cyntaf er mwyn manteisio ar y golygfeydd godidog. Mae dwy gegin, un ar bob llawr ac ystafelloedd ymolchi hefyd ar y ddau lawr. Yn ddi-os mae’n gartref teulu hael ac mae'n sicr o gynnig cyfle i ail-gynllunio'r gosodiad i weddu'ch anghenion penodol – gan hefyd gynnig annedd aml-bwrpas. Mae'r eiddo angen llawer o waith moderneiddio ac adnewyddu ond mae'n cynnig posibiliadau cyffrous a helaeth. Yn allanol, mae’r ty wedi ei osod yn ol oddi wrth y ffordd gyhoeddus gyda mynedfa a dreif breifat a digonedd o le parcio. Mae'r gerddi aeddfed wedi'u gosod ar ddwy lefel ac mae yna fuarth darmac a garej/gweithdy eithriadol o fawr a allai fod yn addas i rywun sy'n chwilio am leoliad i redeg busnes ohoni. Mae gan yr eiddo ffenestri dwbl (uPVC a phren) a gwres canolog wedi'i danio gan olew.
Mae Llanfairpwll yn bentref preswyl poblogaidd, wedi'i leoli ar yr hen Lon Bost rhwng Llundain a Chaergybi, yn agos at Afon Menai a’i phontydd hanesyddol ac yn gyfleus i'r A55, sy'n caniatau teithio buan i ddinas Bangor a’r tir mawr. Mae Llanfairpwll yn cynnig ystod dda o gyfleusterau gan gynnwys archfarchnad, nifer o siopau a busnesau lleol, tafarndai/bwytai, caeau chwarae, gorsaf betrol, meddygfa ac ysgol gynradd ble mae’r Gymraeg yn brif iaith yr ysgol. Mae gan Ynys Mon atyniadau amrywiol ac mae'n cynnig llawer o gyfleusterau chwaraeon dwr a hamdden tra bod agosrwydd Llwybr Arfordir Mon a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cynnig cyfleoedd hwylus i fwynhau'r awyr agored.